Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 22 Mai 2024
Amser:
09.30 -
12.04
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13893
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Samuel Kurtz AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Andy Regan, Nesta Dafydd Gruffydd, Menter Môn Dr Debbie Jones, M-SParc Kate McGavin, UK Infrastructure Bank Robyn Lovelock, Uchelgais Gogledd Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rob Donovan, Clerc Lara Date, Ail Glerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Lucy Morgan, Ymchwilydd Ben Stokes, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd Aled Evans, Cynghorydd Cyfreithiol |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AS drwy gydol y cyfarfod, a gan Hefin David AS ar gyfer eitemau 1,2 a 3.
1.3 Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar yr Economi Werdd.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion i ofyn am ymatebion i'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fanc Seilwaith y DU ynghylch cyfeiriadau a wnaed at fodelau ariannu Awdurdodau Lleol, yn enwedig ynghylch prosiect Dinas Bryste.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar yr Economi Werdd.
4.2 Cytunodd Menter Môn i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu gwybodaeth am faint o gyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r llinellau cyflenwi caffael cyhoeddus i ysgolion Gogledd Cymru, ac i ysgrifennu ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd i gael cynhyrchwyr garddwriaeth i gydweithio, gan gynnwys lefel yr ymgysylltu â gwahanol arlwywyr/caffaelwyr bwyd ysgol
5.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2024.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull a'i bresenoldeb ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2024.